top of page
openwindow.jpeg

Rydym yn ganolfan adferiad gymunedol sydd â dull “pob dibyniaeth”.

AMDANOM NI
STAFELL FYW

Rydym yn ganolfan adfer yn y gymuned sydd â dull "pob dibyniaeth" (e.e. gamblo, alcohol, rhyw, cyffuriau, anhwylder bwyta, ayyb), ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd angen cymorth wrth gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at adferiad neu sydd am barhau i wella. Rydym hefyd yn croesawu ac yn darparu cyngor a chefnogaeth i aelodau'r teulu, partneriaid a ffrindiau sydd wedi cael eu heffeithio gan y dibyniaethau hyn. Bydd yr holl wybodaeth rydych chi'n ei datgelu i ni yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.

About
Our sites
EIN GWELEDIGAETH

Credwn fod adferiad yn ymwneud â phobol yn (ail)adeiladu bywydau ystyrlon a gwerthfawr, lle gallant wireddu eu dyheadau, cael eu trin â pharch ac urddas, a chyfrannu at gymdeithas. Ein gweledigaeth yw darparu cefnogaeth emosiynol a seicolegol barhaus mewn lleoliad cymunedol dan arweiniad cyfoedion, gyda chymorth proffesiynol gan hyfforddwyr adfer profiadol mewn amgylchedd cynnes, cyfeillgar ac anffurfiol. Rydym hefyd yn anelu at greu gofod ar gyfer hunan-wireddu cleientiaid a chyfleoedd ar gyfer twf. Rydym yn sicrhau bod cymorth parhaus yn hygyrch ac yn hawdd mynd ato ac yn creu cymuned adferiad, sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth a rhoi wyneb a llais i adferiad. Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim

Objectives

EIN DULL

Cefnogaeth gyfoed y Stafell Fyw yw’r broses o roi a derbyn cymorth amhroffesiynol, anghlinigol er mwyn sicrhau adferiad tymor hir o broblemau difrifol alcohol a/ neu broblemau eraill yn ymwneud â chyffuriau neu ymddygiadau niweidiol.  

 

Cynigir y gefnogaeth hon gan bobl sydd â nodweddion tebyg (e.e. oed, rhyw, ethnigrwydd, anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd) a gwybodaeth arbrofol (deall adferiad fel profiad wedi’i fyw) ac sy’n gallu cynorthwyo eraill i ddechrau ar adferiad, i gynnal adferiad ac i wella ansawdd bywyd personol a theuluol ac sydd mewn adferiad tymor hir.  

 

Mae’r nodweddion tebyg hyn yn caniatáu i’r derbynnydd a’r cynorthwyydd adnabod pethau tebyg ac maen nhw’n rhoi synnwyr hyder ac ymddiriedaeth iddyn nhw.  Mae’r berthynas mewn cefnogaeth gyfoed yn amhroffesiynol, sy’n golygu ei fod yn nes at ddwyochredd cyfeillgarwch ac mae gwahaniaeth pŵer bychan rhwng y cynorthwyydd a’r derbynnydd.  

 

Mae’r gefnogaeth a gynigir yn golygu darparu cymorth emosiynol, seicolegol, cymdeithasol a gwybodaeth i'w helpu.

​

Yn ogystal mae'r ganolfan yn cynnig cefnogaeth professional un-i-un a gwpiau therapi a gyflwynir gan Gwnselwyr Caethiwed cymwys.

Services

BETH YDYM YN EI WNEUD?

Diolch am ofyn am yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Yn y Stafell Fyw, rydyn ni'n credu bod pob bod dynol yn gwella o rywbeth neu'i gilydd. Mae pobol gyffredin sy'n byw mewn trallod parhaus yn gwneud hynny am yr un rheswm i raddau helaeth â phobol ddibynnol. Yn ei hanfod, rydyn ni i gyd yn berffaith amherffaith ac mae crac ym mhob un ohonom. Mae'n ymddangos bod y crac yn llawer ehangach yn y rhai sy'n ddibynnol ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill, yn bennaf oherwydd y canlyniadau. Mae'n digwydd bod eu cyffur neu ymddygiad o ddewis yn ffactor sy'n gwneud pethau'n waeth iddyn nhw.

 

Nid yw gwreiddiau caethiwed yn gorwedd yn natur gaethiwus y sylwedd ei hun (er bod hwn yn ffactor pwerus pan fydd y person dibynnol mewn caethiwed gweithredol). Mae'r gefnogaeth emosiynol y mae cyffur yn ei rhoi i'r person dibynnol yn llawer mwy yr ysfa i ail ddefnyddio unwaith y bydd chwantau corfforol wedi tawelu. Gall hyn fod yn salwch emosiynol ac mae gan y rhan fwyaf ohonom wahanol raddau o boen a gofid emosiynol yn ein bywydau. Mae'r Stafell Fyw yn cofleidio pawb, yn gaeth yn gorfforol neu mewn angen emosiynol, i ddod o hyd i'r mynegiant llawnaf ohonyn nhw eu hunain. Mewn geiriau eraill, rydyn ni eisiau helpu pobol i fyw "... bywyd ystyrlon a boddhaol, fel y'i diffinnir gan y person ei hun, p'un a oes symptomau neu broblemau parhaus neu ailadroddus ai peidio."

 

Nid set o werthoedd a orfodir yn allanol yw adferiad. Fel mae'r dyfyniad uchod yn ei awgrymu, mae'n helpu rhywun i ddod o hyd i ystyr neu foddhad y tu hwnt i gaethiwed - mewn termau a ddiffinnir gan y person dibynnol neu ddioddefwr ei hun. Rôl yr arbenigwr caethiwed (sef yr hyn ydw i) yw rôl 'cynorthwyydd medrus', rhywun a all arwain, awgrymu a, phan fo angen, herio syniadau ac ymddygiadau, ond nid ydym yn dod i'r senario gydag atebion parod na chynlluniau bywyd un maint i bawb.

 

Yn aml, gwelir adferiad mewn ystyr feddygol fel adfer rhyw gyfadran sydd wedi'i cholli, fel golwg neu glyw, er enghraifft. Mae'r paradigm hwn yn gamarweiniol yng nghyd-destun caethiwed; mae'n awgrymu bod person mewn adferiad yn dechrau fel person sy'n iach yn emosiynol, yn dod yn gaeth yn gorfforol i sylwedd a, thrwy ymatal, yn gallu dychwelyd i'r sefyllfa wreiddiol. Mae'r rhan fwyaf o dystiolaeth empirig ac anecdotaidd yn awgrymu pan fyddant yn dod o hyd i adferiad, mai dyna'r tro cyntaf iddynt ddod o hyd i gyfanrwydd a lles emosiynol. Mae'r teimlad o dristwch neu anghyflawnder y ceisiodd ei gywiro neu ei feddyginiaethu ag alcohol a chyffuriau eraill yn cael ei ddatrys gan y profiad adferol.

 

Felly, mae proses y Stafell Fyw yn ymwneud â llawer mwy na dim ond ymatal rhag cyffur neu ymddygiad camweithredol; mae'n ymwneud â chychwyn ar daith i ddealltwriaeth ddyfnach o'r hunan a chysylltiad dyfnach ag egni bywyd cyffredinol a cheisio dod o hyd i ymdeimlad o gyfanrwydd ysbrydol ac emosiynol, yn rhydd o ddibyniaeth ar sylwedd neu unrhyw ymddygiad niweidiol arall i'w ddarparu.

 

Dewch i'n gweld. Rydym yn darparu cwnsela un-i-un parhaus a chefnogaeth therapi grŵp, yn ogystal â gofal ôl-weithredol. Dewch ymlaen - agorwch y drws i fywyd newydd.

 

Gyda'm holl ddymuniadau gorau,

Wynford X

What we do

CHWE CHAM ADFER STAFELL FYW CAERDYDD

Defnyddio Therapi Grŵp; cwnsela 1:1; Gweithdai; Mini-grwpiau;

Cefnogaeth adfer dros y ffôn;

Gwasanaethau Cefnogi Integredig yn ymwneud ag Adfer (ROIS)

 

Goliau Tymor Hir 

 

  • Ymataliad llwyr o bob sylwedd ac ymddygiad niweidiol sy’n newid tymer

  • Ennill neu ddychwelyd at waith llawn neu ran amser (pan fydd hynny’n briodol)

  • Dim ail-droseddu neu ddychwelyd at ymddygiadau hunan--orchfygol

  • Llunio cynlluniau atal ail bwl

  • Adsefydlu – cefnogaeth barhaus ôl-ofal/ cartref/ byw’n annibynnol
     

Cam 1.   Cyfaddef bod gennym broblem (mae’r dystiolaeth o’n cwmpas ym mhob man)

  • Cydnabod dibyniaeth fel problem

  • Cael cipolwg i mewn ac wynebu gwadiad

 

Cam 2.    Cydnabod ein hangen am help (na allwn ei gyflawni ein hunain)

  • Cydnabod angen a gallu i newid

  • Gofyn am help

  • Canfod a rheoli teimladau’n briodol

  • Canfod agweddau ac ymddygiadau negyddol a hunan--orchfygol 

  • Dewis datblygu agweddau ac ymddygiadau newydd

  • Sefydlu gobaith

  • Dechrau creu hunanwerth

  • Datblygu teimlad ysbrydol

 

Cam 3.    Dod i adnabod ein hunain– pob drwg (deall yn llwyr ein gwir gyflwr)

  • Hunan-archwiliad llym – stori bywyd (gwaith unigol, e.e. dicter, cywilydd, euogrwydd,  galar, rheolaeth, trosglwyddo dibyniaeth)

  • Paratoi ar gyfer ‘glanhau’r tÅ·’ a gollwng gafael o ‘baciau’ (mini-grwpiau: mannau newid, sut i newid ymddygiadau, opsiynau, teulu, gwasanaethau cymdeithasol)

 

Cam 4.    Datblygu’n rhai sy’n cymryd risgiau – drwy ddatblygu’n fregus a derbyn ein dynoliaeth (newid ein patrymau ymddwyn)

  • Dyfnhau ymwybyddiaeth o gyfnod presennol datblygiad personol – cynllun iechyd

  • Canfod blociau personol, ymddygiadau/ credoau/ teimladau hunan-orchfygol

  • Blaenoriaethu newidiadau i’w gwneud

  • Ymrwymo i newidiadau penodol

  • Gweithredu newidiadau

  • Monitro newidiadau

 

Cam 5.    Caledu – a sylweddoli ein bod yn oroeswyr ac nid yn ddioddefwyr (gosod pendantrwydd arnom ein hunain a gosod goliau)

  • Monitro cynnydd personol 

  • Perchnogi camgymeriadau a gweithredu newid

  • Parhau i ddyfnhau ymwybyddiaeth o asedau personol

  • Gosod goliau ar gyfer datblygiad personol

  • Gweithredu cynllun gweithredu i gyflawni potensial personol

  • Aseiniadau atal ail bwl

  • Cadarnhau cynlluniau a dyddiadau ôl-ofal

 

Cam 6.    Datblygu i fod yn “rhoddwyr” yn lle “derbynwyr” a chario neges gobaith i eraill (bod yn eiriolwyr adfer)

  • Datblygu’n fodel rôl i adfer o fewn grŵp cyfoed

  • Datblygu’n aelod actif o gyfeillach/au dewisol os yn briodol

  • Gwneud cyfraniad positif at weithgareddau cymunedol ehangach

  • Ceisio gwaith sy’n gwneud cyfraniad cymdeithasol ac ariannol i’r gymdeithas ehangach

  • Gallu rheoli byw’n annibynnol.

Services

CYSYLLTWCH Â NI

Wynford Ellis Owen
Prif weithredwr y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill
(Elusen ar Gyfer Dibyniaeth, Adferiad a Galluogi)

Eglwys y Crwys

77 Heol Richmond

Caerdydd CF24 3AR 

​

Ffon: 0779 646 4045
Ebost: wynford@recovery-council.org

Contact

Diolch am eich neges!

bottom of page